

Mae heddiw’n garreg filltir arwyddocaol i Caffi Trwsio Cymru wrth i ni ddadorchuddio ein strategaeth 5 mlynedd newydd gyffrous, sydd wedi’i llunio gan leisiau o bob rhan o’n rhwydwaith. Mae’r cynllun hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i leihau gwastraff, cefnogi cymunedau lleol, ac annog pobl i gofleidio gwaith atgyweirio fel rhan o fywyd bob dydd.
Mae'r ddogfen yn amlygu ein nodau ar gyfer ehangu'r rhwydwaith o gaffis atgyweirio a chynnig cymorth, annog newid ymddygiad, ymgysylltu â phobl ifanc a'r hawl i atgyweirio.
Byddem wrth ein bodd pe baech yn edrych ar y strategaeth a gweld i ba gyfeiriad yr ydym. P'un a ydych chi'n wirfoddolwr, yn ymwelydd, neu'n chwilfrydig am yr hyn rydyn ni'n ei wneud, mae'r ddogfen hon yn ffordd wych o ddysgu mwy am ein gweledigaeth.
Cliciwch isod i ddarllen y strategaeth lawn.


