Caerdydd – Llandaf
March 20-11:00 am-3:00 pm
Un digwyddiad ar 20 Chwefror 2025 am 11:00am
Un digwyddiad ar 20eg Mawrth 2025 am 11:00am
Un digwyddiad ar 15 Mai 2025 am 11:00am
Un digwyddiad ar 12 Mehefin 2025 am 11:00am
Un digwyddiad ar 10 Gorffennaf 2025 am 11:00am
Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi gyda chi a bydd ein hatgyweiriwyr gwirfoddol yn ceisio ei thrwsio, am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â'ch cyd-gymdogion tra byddwch yn aros. Byddwn hyd yn oed yn dangos i chi sut mae'n cael ei wneud hefyd os dymunwch! Y ffordd orau o ailddefnyddio ac ailgylchu sydd yno.
*Gwasanaethu Beic am Ddim yn yr Haf yn Unig – MAI, MEHEFIN A GORFFENNAF*
Mae atgyweiriadau nodweddiadol yn cynnwys; cynnal a chadw beiciau sylfaenol, atgyweirio offer trydanol, cymorth cyfrifiadurol, gwnïo, atgyweirio addurniadau, a gwaith coed; er y cawn olwg ar y rhan fwyaf o bethau, heblaw Microdonau gan eu bod yn rhy beryglus.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Gyrrwch neges atom ar Facebook neu Twitter, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod atgyweiriwr ar gael i drwsio'ch eitem.
Mae croeso bob amser i fwy o atgyweirwyr - dewch draw hyd yn oed os mai dim ond i ddarganfod beth sy'n digwydd, a dywedwch wrth eich ffrindiau! Welwn ni chi yno!