Lleoliadau
Os ydych chi'n chwilio am restr gyflawn o leoliadau, neu'n dymuno cysylltu â Chaffi Trwsio yn uniongyrchol os gwelwch yn dda cliciwch yma.
llwytho Digwyddiadau

Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi gyda chi a bydd ein hatgyweiriwyr gwirfoddol yn ceisio ei thrwsio, am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi, a sgwrsio â'ch cyd-gymdogion tra byddwch yn aros. Byddwn hyd yn oed yn dangos i chi sut mae'n cael ei wneud hefyd os dymunwch! Y ffordd orau o ailddefnyddio ac ailgylchu sydd yno.

Mae atgyweiriadau nodweddiadol yn cynnwys; cynnal a chadw beiciau sylfaenol, atgyweirio offer trydanol, cymorth cyfrifiadurol, gwnïo, atgyweirio addurniadau, a gwaith coed; er y cawn olwg ar y rhan fwyaf o bethau, heblaw Microdonau gan eu bod yn rhy beryglus.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Gyrrwch neges atom ar Facebook neu Twitter, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod atgyweiriwr ar gael i drwsio'ch eitem.

Mae croeso bob amser i fwy o atgyweirwyr - dewch draw hyd yn oed os mai dim ond i ddarganfod beth sy'n digwydd, a dywedwch wrth eich ffrindiau! Welwn ni chi yno!

Gwirfoddoli!

Er bod rhai o'n gwirfoddolwyr yn arbenigwyr, mae llawer yn bobl sy'n hoffi trwsio a tincian. Nid yw eraill (fel y sylfaenwyr!) yn ymarferol o gwbl ond gallant drefnu; cymorth gyda gweinyddu; neu staffio'r ddesg flaen.