Rydym yn cydnabod nad yw symudiad y ddynoliaeth i gymdeithas sy’n taflu i ffwrdd yn un gynaliadwy.

Wedi ymrwymo i hwyluso agor caffis atgyweirio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ein hegni ar feithrin byd glanach a mwy cynaliadwy tra bod ein cymunedau yn amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oed a chefndir rannu gwybodaeth, sgiliau, ac i gysylltu'n gyffredinol.

Mae ein cymunedau'n trwsio tostwyr, yn ailadeiladu byrddau coffi ac yn ail-ddefnyddio jîns neu ffrogiau, rydym yn magu hyder, yn ailsgilio'r rhai sydd eisiau dysgu, ac rydym yn atgoffa ein hunain o bwysigrwydd cyfathrebu, cydweithredu ac ysbryd cymunedol.

Mae manteision cymdeithasol ac amgylcheddol Caffi Atgyweirio Cymru i'w gweld yn y lefelau cynyddol o alw lleol i lansio caffis atgyweirio.

Mae'r ymateb hwn yn adlewyrchu pryder cynyddol y cyhoedd ynghylch yr argyfwng hinsawdd ac yn dangos yn gadarnhaol gymhelliant ymhlith ein cymdeithas i ddod at ein gilydd a chymryd camau ymarferol tuag at ateb.

Rydym yn gweithio dros ein cymunedau i ddylanwadu ar safonau ar gyfer nwyddau a pholisi’r llywodraeth, gan gasglu data o’n hybiau cymunedol, a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach, mwy cynaliadwy.