Swyddog Cyfathrebu 

 

Lleoliad Gweithio o gartref 
Contract Contract amser llawn tymor penodedig tan 31 Mawrth 2025 
Cyflog £28,925.00 
Adrodd i  Y Rheolwr Gweithrediadau 
Dyddiad dechrau Cyn gynted â phosibl 

I wneud cais, cyflwynwch eich CV, llythyr cyflwyno byr, ac unrhyw enghreifftiau o gynnwys rydych chi wedi’i gynhyrchu o’r blaen: phoebe@repaircafewales.org 

 

YNGHYLCH CAFFI TRWSIO CYMRU 

 

Cymdeithas sydd wedi’i grymuso i gydweithio er mwyn lleihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau’ 

Mae Caffi Trwsio Cymru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sy’n agor ac yn cefnogi caffis trwsio ledled Cymru. Ar eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau dros dro lle mae gwirfoddolwyr yn trwsio, am ddim, eitemau cartref y gymuned leol sydd wedi torriMae caffis trwsio yn cael eu cychwyn gan drigolion, gyda’n cefnogaeth ni, ac yn cael eu cynnal gan y gymuned leol. 

 

Ar hyn o bryd rydym ni’n cefnogi rhwydwaith o fwy na 100 o gaffis trwsio ond nid dyna’r diwedd! Ein cenhadaeth yw hwyluso agor caffis trwsio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru. Rydym ni’n canolbwyntio’n hegni ar feithrin byd glannach, mwy cynaliadwy tra bod ein cymunedau’n amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oedran a chefndir rannu gwybodaeth, sgiliau, a chysylltu’n gyffredinol. 

 

Gweithiwn dros ein cymunedau i ddylanwadu ar safonau ar gyfer nwyddau a pholisi’r llywodraeth, casglu data o’n canolbwyntiau cymunedol, a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach, mwy cynaliadwy. 

 

 

YNGHYLCH Y RÔL 

 

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu profiadol i ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu effeithiol, gyda chefnogaeth y Rheolwr Gweithrediadau a’r Cyfarwyddwr. Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn hyrwyddo ein hymgysylltiad a’n cyrraedd ar draws ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn cynhyrchu cynnwys creadigol ysbrydoledig, er mwyn i ni gael ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chael mwy o effaith.  Rôl allweddol yw hon i’n sefydliad a byddai’n gweddu orau i rywun creadigol, cryf eu cymhelliant sy’n egnïol dros ddatrys problemau, gweithio’n gydweithredol, ac amgylchedd sy’n symud ar garlam.  

 

Ar hyn o bryd rydym yn dîm bach sy’n gefnogol iawn o weithio hyblyg, gyda ffocws ar gyflenwi canlyniadau. Mae hwn yn gontract tymor penodedig, gyda’r potensial i’w estyn os byddwn yn llwyddiannus wrth sicrhau rhagor o gyllid. Rôl sy’n gweithio o gartref yw hon ond bydd angen teithio’n achlysurol i gaffis trwsio ledled Cymru i gynhyrchu cynnwys.  

 

 

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL 

 

  • Cynorthwyo’r gwaith datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu effeithiol ar sail ein cynulleidfa darged 
  • Cynhyrchu canllawiau brand  
  • Monitro ac ymateb i adborth oddi wrth y cyfryngau a’r cyhoedd am y sefydliad ar sianeli traddodiadol a digidol 
  • Creu cynnwys ar-lein ac all-lein, gan gynnwys erthyglau ysgrifenedig, hysbysiadau i’r wasg, cylchlythyron, fideos, rîls, graffeg a delweddau 
  • Amserlennu cynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, LinkedIn, TikTok ac Instagram) gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys 
  • Tudalen we a phostio diweddariadau 
  • Gweithredu technegau i fesur ymgysylltiad 
  • Magu cysylltiadau â meicro-ddylanwadwyr perthnasol a sefydlu a chynnal ymgyrch ddylanwadu 
  • Cynnal gwybodaeth gyfredol o dueddiadau cyfryngau cymdeithasol a sut mae defnyddio’r rhain i gynyddu ymgysylltiad ymhellach 
  • Cynnal ymchwil i’r farchnad a dadansoddi cynulleidfa Caffi Trwsio Cymru a’u hanghenion 
  • Olrhain dadansoddeg a chreu adroddiadau i adolygu perfformiad ac ymgysylltiad  
  • Sicrhau cysondeb yn nhermau llais, brand, negeseuon ac amlder postio drwy sianeli digidol
     

 

SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL 

 

 

Profiad blaenorol 

 

  • Hanes profedig o ddefnyddio amrywiol sianeli cyfathrebu a marchnata er mwyn gwella brand a phroffil 
  • Profiad o ysgrifennu deunydd sy’n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli ar gyfer y cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol a gwefannau 
  • Profiad o gyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu  
  • Dealltwriaeth o ddatblygu ymgysylltiad â chynulleidfaoedd ar gyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Facebook, Twitter, Linked In, TikTok ac Instagram 
  • Mae profiad o weithio ar ymgyrchoedd dylanwadu graddfa-fach yn ddymunol 
  • Mae profiad o weithio yn y trydydd sector yn ddymunol 
  • Mae profiad o ffotograffiaeth a fideograffiaeth yn ddymunol 

 

Cymwyseddau 

 

  • Sgiliau TG gan gynnwys Microsoft, Canva neu offer dylunio eraill, meddalwedd ddadansoddeg, hysbysebion Google, llwyfannau marchnata trwy e-bost a systemau gwefan CMS  
  • Sgiliau ysgrifenedig cryf gyda phrofiad o lunio a chynnig hysbysiadau i’r wasg ac ysgrifennu ar gyfer ystod o wahanol gynulleidfaoedd 
  • Sgiliau dadansoddi rhagorol gyda’r gallu i adrodd ar berfformiad ar draws pob sianel gyfathrebu  
  • Ymrwymiad gwirioneddol i werthoedd ac ethos Caffi Trwsio Cymru 
  • Sgiliau cyfathrebu eithriadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • Gallu i feithrin cysylltiadau cryf ag amrywiaeth o randdeiliaid  
  • Llygad graff am fanylion  
  • Ymagwedd hyblyg at ymdrin â thasgau, gyda’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog mewn amgylchedd prysur 

 

Sgiliau technegol  

  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol iawn 
  • Gwybodaeth o ddiogelu data a’r ddeddfwriaeth berthnasol 
  • Mae profiad o fentrau cynaliadwy neu’r economi gylchol yn ddymunol 

 

 

GWERTHOEDD  

Mae caffis trwsio yn ffordd ddifyr, gymdeithasol o oresgyn y rhwystredigaeth gyffredinol ar ddeunyddiau ac adnoddau sy’n cael eu gwastraffu a sgiliau sy’n cael eu colli. Mae’n gymuned, yn lle am rymuso ac yn fan trawsnewid lle bydd perthynas pobl â’u heitemau cartref yn newid o ddefnyddiwr i berchennog. 

 

Mae’n ofynnol i bob cyflogai, contractiwr a gwirfoddolwr weithredu yn unol â gwerthoedd craidd Caffi Trwsio Cymru, sef:  

  • Lleihau Gwastraff Mae caffis trwsio yn helpu eitemau cartref i gael eu defnyddio’n hirach yn hytrach na chael eu taflu. Mae hyn yn lleihau maint y deunyddiau crai a’r ynni mae eu hangen i wneud cynhyrchion newydd. Mae’n cwtogi allyriadau CO2 drwy ailddefnyddio yn hytrach na gweithgynhyrchu cynnyrch newydd.  
  • Rhannu Sgiliau Drwy hyrwyddo diwylliant trwsio a gwahodd pob un o’n hymwelwyr i eistedd gyda thrwsiwr gwirfoddol, mae caffis trwsio yn dangos gwerthfawrogiad i’r bobl sydd â gwybodaeth ymarferol ac yn sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu pasio ymlaen.  
  • Cydlyniant Cymunedol – Mae caffis trwsio yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn y gymuned trwy gysylltu trigolion lleol o gefndiroedd gwahanol iawn ac sydd â chymhellion gwahanol â’i gilydd trwy ddigwyddiad ysbrydoledig a chynnil. 

 

Y BROSES RECRIWTIO 

 

I wneud cais, cyflwynwch eich CV, llythyr cyflwyno byr, ac unrhyw enghreifftiau o gynnwys rydych chi wedi’i gynhyrchu o’r blaen: phoebe@repaircafewales.org

 

Dyddiad cau am geisiadau:  5yp Dydd Mercher 27fed Medi 

 

Cyfweliadau: w/d 2il Hydref 

 

 

Cadwn yr hawl i gau’r swydd wag yma’n gynnar os byddwn ni’n derbyn digon o gynigion am y rôl. Felly os oes diddordeb gennych chi, cyflwynwch eich cais mor fuan â phosibl. 

 

Mae Caffi Trwsio Cymru yn cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac  yn herio gwahaniaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd oddi wrth bobl o bob cefndir. Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Caffi Trwsio Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol am y rôl fel y’u pennir mewn proffiliau rôl. 

Communications Officer 

 

Location Home working 
Contract Full time fixed term contract until 31st March 2025 
Salary £28,925.00 
Reporting to  Operations Manager 
Start date ASAP 

To apply, please submit your CV, a brief cover letter, and any examples of content you have previously produced to phoebe@repaircafewales.org

ABOUT REPAIR CAFE WALES 

 

‘A society empowered to work together to reduce waste, share skills, and strengthen our communities’ 

Repair Cafe Wales is a not-for-profit Community Interest Company that opens and supports repair cafes across Wales. In their simplest form, repair cafés are pop up events where the local community can get their broken household items repaired for free by volunteers.  Repair cafés are started by residents, with our support, and run by the local community. 

 

We currently support a network of over 100 repair cafes but we are not stopping there! Our mission is to facilitate the opening of repair cafés in every town, village, city and suburb in Wales. We are focusing our energies on nurturing a cleaner, more sustainable world whilst our communities are inclusive and safe environments for people of all ages and backgrounds to share knowledge, skills, and to generally connect. 

 

We work for our communities to influence standards for goods and government policy, collect data from our community hubs, and help to inform policy decisions that promote a greener, more sustainable world. 

 

 

ABOUT THE ROLE 

 

We are seeking an experienced Communications Officer to develop and implement an effective communications strategy, supported by the Operations Manager and Director. The Communications Officer will drive engagement and reach across all of our social media channels and produce inspiring and creative content so that we can reach new audiences and have greater impact. This is a key role to our organisation which would best suit a creative self-starter who is energised by problem solving, collaborative working, and a fast-paced environment.  

 

We are currently a small team that is very supportive of flexible working, with a focus on delivering outcomes. This is a fixed-term contract, with the potential to extend if we are successful in obtaining further funding. This role is home-based but occasional travel to repair cafes across Wales to produce content will be required.  

 

 

KEY RESPONSIBILITIES 

 

  • Assist in the development and implementation of an effective communications strategy based on our target audience 
  • Produce brand guidelines  
  • Monitoring and responding to feedback from the media and the public about the organisation on traditional and digital channels 
  • Creation of online and offline content, including written articles, press releases, newsletters, videos, reels, graphics and images 
  • Scheduling of content on social media channels (Twitter, Facebook, LinkedIn, TikTok and Instagram) using content management software. 
  • Website page and post updates. 
  • Implement techniques to measure engagement  
  • Establish relationships with relevant micro-influencers and set up and run an influencer campaign 
  • Maintain up to date knowledge of social media trends and how these can be used to further increase engagement 
  • Perform market research and analysing Repair Cafe Wales’ audience and its needs 
  • Track analytics and create reports to review performance and engagement  
  • Ensure consistency in terms of voice, branding, messaging and frequency of posting via digital channels
     

 

SKILLS AND EXPERIENCE REQUIRED 

 

 

Previous experience 

 

  • Proven experience of using various communications and marketing channels to enhance brand and profile 
  • Experience of writing engaging and inspiring copy for media, social media and websites 
  • Experience of contributing to the development and implementation of a comms strategy  
  • Understanding of developing audience engagement on social media, particularly Facebook, Twitter, Linked In, TikTok and Instagram 
  • Experience working on small-scale influencer campaigns is desirable  
  • Experience of working in the third sector is desirable 
  • Photography and videography experience desirable  

 

Competencies 

 

  • IT skills including Microsoft, Canva or other design tools, analytics software, google ads, email marketing platforms and website CMS systems 
  • Strong writing skills with experience of drafting and pitching press releases and writing for a range of different audiences 
  • Excellent analytic skills with the ability to report on performance across all comms channels  
  • A genuine commitment to the values and ethos of Repair Cafe Wales 
  • Exceptional communication skills, both written and verbal 
  • Ability to build strong relationships with a variety of stakeholders 
  • Good attention to detail 
  • A flexible approach to dealing with tasks, with the ability to manage multiple priorities in a busy environment 

 

Technical skills 

 

  • Welsh language skills are very desirable 
  • Knowledge of data protection and relevant legislation 
  • Experience of sustainable initiatives or the circular economy is desirable 

 

 

VALUES  

 

Repair cafés are a fun, social way to combat the general frustration with wasted materials, resources and a loss of skills. It’s a community, a space for empowerment and the site of transformation where people’s relationships with their household items shift from consumer to owner. 

 

All employees, contractors and volunteers are required to operate in line with RCW’s core values: 

 

  • Waste Reduction – Repair cafés help household items be used for longer rather than throwing them away. This reduces the volume of raw materials and energy needed to make new products. It cuts CO2 emissions by reusing instead of manufacturing new products. 
  • Sharing Skills – By promoting a repairing culture and inviting each one of our visitors to sit with a volunteer repairer, repair cafés show appreciation for the people who have practical knowledge and ensure these valuable skills are getting passed on. 
  • Community Cohesion – Repair cafés promote social cohesion in the community by connecting local residents from very different backgrounds and with different motives with each other through an inspiring and low-key event. 

 

RECRUITMENT PROCESS 

 

To apply, please submit your CV, a brief cover letter, and any examples of content you have previously produced to phoebe@repaircafewales.org

 

Applications close: 5pm Wednesday 27th September 

 

Interviews: W/c 2nd October 

 

 

We reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications for the role. Therefore, if you are interested, please submit your application as early as possible. 

 

Repair Cafe Wales recognise the positive value of diversity, promotes equality and challenges discrimination. We welcome and encourage job applications from people of all backgrounds. We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Repair Cafe Wales. We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles.