It is an exciting time to be joining Repair Cafe Wales as we transition from a C.I.C to a C.I.O structure and as such are looking to bring greater charity expertise to our board. With a number of our current Directors’ terms of office coming to an end we have several pending vacancies on our board, as well as a potential Chair position.
To apply, please send your CV and a supporting statement to Phoebe Brown phoebe@repaircafewales.org by 5pm Friday 15th November
Read more about the role below:
Trustee- various specialisms
Remuneration | This role is not accompanied by any financial remuneration although reasonable expenses may be claimed |
Time commitment | 1 day per month- Board meetings are held once a month |
Deadline | 15th November 2024 |
ABOUT REPAIR CAFE WALES
‘A society empowered to work together to reduce waste, share skills, and strengthen our communities’
Repair Cafe Wales is a not-for-profit Community Interest Company that opens and supports repair cafes across Wales. In their simplest form, repair cafés are pop up events where the local community can get their broken household items repaired for free by volunteers. Repair cafés are started by residents, with our support, and run by the local community.
We currently support a network of over 140 repair cafes but we are not stopping there! Our mission is to facilitate the opening of repair cafés in every town, village, city and suburb in Wales. We are focusing our energies on nurturing a cleaner, more sustainable world whilst our communities are inclusive and safe environments for people of all ages and backgrounds to share knowledge, skills, and to generally connect.
We work for our communities to influence standards for goods and government policy, collect data from our community hubs, and help to inform policy decisions that promote a greener, more sustainable world.
OUR IMPACT
Since our inception we have:
- Supported over 140 communities
- Saved 19848 items from landfill
- Saved 652,999.2 KGCO2e in carbon emissions
- Saved communities over £1m
- Become a leader in the community repair space
- Launched Wales’ first high-street repair and reuse hub
ABOUT THE ROLE
It is an exciting time to be joining Repair Cafe Wales as we transition from a C.I.C to a C.I.O structure and as such are looking to bring greater charity expertise to our board. With a number of our current Directors’ terms of office coming to an end we have several pending vacancies on our board, as well as a potential Chair position.
We are particularly keen to hear from people with the following skills and experience:
- HR
- Charity governance
- Fundraising
- Third sector experience
- Welsh language skills
KEY RESPONSIBILITIES
- Provide leadership and strategic direction to the organization.
- Ensure the organization adheres to its mission, values, and goals.
- Support the CEO and senior staff to run an effective organisation
- Monitor performance against delivering our charitable objectives.
- Provide overall governance, ensuring compliance with relevant legislation and Charity Commission / Companies House requirements
- Contribute to fundraising and outreach efforts, representing the organisation where needed
- Attend and actively participate in board meetings
SKILLS AND EXPERIENCE REQUIRED
Previous experience
- Experience in nonprofit governance or serving on boards.
- Professional expertise in areas such as finance, law, fundraising, marketing, or human resources.
- Connections within the community or industry that can support the organisation’s growth and advocacy efforts.
Competencies
- Passion for the Cause: Demonstrated commitment to the organisation’s mission and values.
- Leadership: Strong leadership skills with a background in strategic planning and organizational governance.
- Financial Acumen: Ability to understand financial statements and assess financial performance.
- Communication Skills: Excellent interpersonal and communication skills to represent the organization effectively.
- Integrity and Accountability: Ability to act in the best interest of the organization with transparency and accountability.
- Collaborative Mindset: Experience working in team settings, with the ability to listen and contribute thoughtfully.
Technical skills
- Welsh language skills are desirable
VALUES
Repair cafés are a fun, social way to combat the general frustration with wasted materials, resources and a loss of skills. It’s a community, a space for empowerment and the site of transformation where people’s relationships with their household items shift from consumer to owner.
All employees, contractors and volunteers are required to operate in line with RCW’s core values:
- Waste Reduction – Repair cafés help household items be used for longer rather than throwing them away. This reduces the volume of raw materials and energy needed to make new products. It cuts CO2 emissions by reusing instead of manufacturing new products.
- Sharing Skills – By promoting a repairing culture and inviting each one of our visitors to sit with a volunteer repairer, repair cafés show appreciation for the people who have practical knowledge and ensure these valuable skills are getting passed on.
- Community Cohesion – Repair cafés promote social cohesion in the community by connecting local residents from very different backgrounds and with different motives with each other through an inspiring and low-key event.
HOW TO APPLY
To apply please submit your CV and a brief supporting statement to phoebe@repaircafewales.org
Deadline for applications: 5pm Friday 15th November
Interviews: anticipated to be w/c 25th November
Decision communicated: ASAP
Start date: New trustees are expected to join for our January board meeting
Repair Cafe Wales recognise the positive value of diversity, promotes equality and challenges discrimination. We welcome and encourage job applications from people of all backgrounds. We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Repair Cafe Wales. We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles.
Ymddiriedolwr – amrywiol arbenigeddau
Cydnabyddiaeth | Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ynghlwm wrth y rôl hon ond gall treuliau rhesymol gael eu hawlio |
Ymrwymiad amser | 1 diwrnod y mis – cynhelir cyfarfodydd Bwrdd unwaith y mis |
Dyddiad cau | 15 Tachwedd 2024 |
YNGHYLCH CAFFI TRWSIO CYMRU
‘Cymdeithas sydd wedi’i grymuso i gydweithio er mwyn lleihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau’
Mae Caffi Trwsio Cymru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sy’n agor ac yn cefnogi caffis trwsio ledled Cymru. Ar eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau dros dro lle mae gwirfoddolwyr yn trwsio, am ddim, eitemau cartref y gymuned leol sydd wedi torri. Mae caffis trwsio yn cael eu cychwyn gan drigolion, gyda’n cefnogaeth ni, ac yn cael eu cynnal gan y gymuned leol.
Ar hyn o bryd rydym ni’n cefnogi rhwydwaith o fwy na 140 o gaffis trwsio ond nid dyna’r diwedd! Ein cenhadaeth yw hwyluso agor caffis trwsio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru. Rydym ni’n canolbwyntio’n hegni ar feithrin byd glannach, mwy cynaliadwy tra bod ein cymunedau’n amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oedran a chefndir rannu gwybodaeth, sgiliau, a chysylltu’n gyffredinol.
Gweithiwn dros ein cymunedau i ddylanwadu ar safonau ar gyfer nwyddau a pholisi’r llywodraeth, casglu data o’n canolbwyntiau cymunedol, a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach, mwy cynaliadwy.
EIN HEFFAITH
Ers cychwyn rydym wedi:
- Cefnogi dros 140 o gymunedau
- Achub 19848 o eitemau rhag mynd i dirlenwi
- Arbed 652,999.2 KGCO2e mewn allyriadau carbon
- Arbed dros £1m i gymunedau
- Dod yn arweinydd ym maes trwsio cymunedol
- Lansio hyb trwsio ac ailddefnyddio cyntaf Cymru ar y stryd fawr
YNGHYLCH Y RÔL
Mae’n adeg gyffrous i ymuno â Chaffi Trwsio Cymru wrth i ni drosi o strwythur Cwmni Buddiannau Cymunedol i Sefydliad Corfforedig Elusennol ac fel y cyfryw hoffem ni ddod â mwy o arbenigedd ym maes elusennau i’n bwrdd. Wrth i gyfnod swydd nifer o’n Cyfarwyddwyr presennol ddod i ben, bydd sawl lle gwag gennym ar ein bwrdd, yn ogystal â safle Cadeirydd o bosibl.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â’r sgiliau a phrofiad dilynol:
- Adnoddau dynol
- Llywodraethu elusen
- Codi arian
- Profiad o’r trydydd sector
- Sgiliau Cymraeg
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
- Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i’r sefydliad.
- Sicrhau bod y sefydliad yn dilyn ei genhadaeth, ei werthoedd, a’i nodau.
- Cefnogi’r CEO ac uwch staff i gynnal sefydliad effeithiol.
- Monitro perfformiad o ran cyflenwi ein hamcanion elusennol.
- Darparu llywodraethu cyffredinol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a gofynion y Comisiwn Elusennau / Tŷ’r Cwmnïau.
- Cyfrannu at ymdrechion codi arian ac allgymorth, gan gynrychioli’r sefydliad pan fo angen.
- Mynychu a chymryd rhan weithgar mewn cyfarfodydd bwrdd.
SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL
Profiad blaenorol
- Profiad mewn llywodraethu nid-er-elw neu wasanaethu ar fyrddau.
- Arbenigedd proffesiynol mewn meysydd fel cyllid, y gyfraith, codi arian, marchnata, neu adnoddau dynol.
- Cysylltiadau o fewn y gymuned neu ddiwydiant a all gefnogi twf ac ymdrechion eiriolaeth y sefydliad.
Cymwyseddau
- Angerdd dros yr Achos: Ymrwymiad amlwg i genhadaeth a gwerthoedd y sefydliad.
- Arweinyddiaeth: Sgiliau arwain cryf gyda chefndir mewn cynllunio strategol a llywodraethu sefydliadol.
- Craffter Ariannol: Gallu i ddeall datganiadau ariannol ac asesu perfformiad ariannol.
- Sgiliau Cyfathrebu: Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu o’r radd flaenaf i gynrychioli’r sefydliad yn effeithiol.
- Uniondeb a Atebolrwydd: Gallu i weithredu er budd gorau’r sefydliad gyda thryloywdeb ac atebolrwydd.
- Meddylfryd Cydweithredol: Profiad o weithio o fewn timau, gyda’r gallu i wrando a chyfrannu’n feddylgar.
Sgiliau technegol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
GWERTHOEDD
Mae caffis trwsio yn ffordd ddifyr, gymdeithasol o oresgyn y rhwystredigaeth gyffredinol ar ddeunyddiau ac adnoddau sy’n cael eu gwastraffu a sgiliau sy’n cael eu colli. Mae’n gymuned, yn lle am rymuso ac yn fan trawsnewid lle bydd perthynas pobl â’u heitemau cartref yn newid o ddefnyddiwr i berchennog.
Mae’n ofynnol i bob cyflogai, contractiwr a gwirfoddolwr weithredu yn unol â gwerthoedd craidd Caffi Trwsio Cymru, sef:
- Lleihau Gwastraff – Mae caffis trwsio yn helpu eitemau cartref i gael eu defnyddio’n hirach yn hytrach na chael eu taflu. Mae hyn yn lleihau maint y deunyddiau crai a’r ynni mae eu hangen i wneud cynhyrchion newydd. Mae’n cwtogi allyriadau CO2 drwy ailddefnyddio yn hytrach na gweithgynhyrchu cynnyrch newydd.
- Rhannu Sgiliau – Drwy hyrwyddo diwylliant trwsio a gwahodd pob un o’n hymwelwyr i eistedd gyda thrwsiwr gwirfoddol, mae caffis trwsio yn dangos gwerthfawrogiad i’r bobl sydd â gwybodaeth ymarferol ac yn sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu pasio ymlaen.
- Cydlyniant Cymunedol – Mae caffis trwsio yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn y gymuned trwy gysylltu trigolion lleol o gefndiroedd gwahanol iawn ac sydd â chymhellion gwahanol â’i gilydd trwy ddigwyddiad ysbrydoledig a chynnil.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a datganiad ategol byr i phoebe@repaircafewales.org
Dyddiad cau am geisiadau: 5pm dydd Gwener 15 Tachwedd
Cyfweliadau: Rhagwelir eu cynnal yn yr w/c 25 Tachwedd
Cyfleu ein penderfyniad: Cyn gynted â phosibl
Dyddiad dechrau: Disgwylir i ymddiriedolwyr newydd ymuno ar gyfer cyfarfod fis Ionawr ein Bwrdd
Mae Caffi Trwsio Cymru yn cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd oddi wrth bobl o bob cefndir. Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Caffi Trwsio Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol am y rôl fel y’u pennir mewn proffiliau rôl.