Repair Cafe Wales is growing! We’re seeking an experienced Bookkeeper to join our team. The role is home working.

To apply, please send your CV and a supporting statement to Phoebe Brown phoebe@repaircafewales.org by 5pm Tuesday 11th June 2024

Read more about the role below:

Bookkeeper 

 

Location Home working 
Contract 2.5 days per week fixed term contract until 31/03/25 with possibility to extend dependent on funding. We are open to considering less hours than 0.5 FTE if business needs can be met 
Start date ASAP 
Salary £25,121.25 FTE  
Reporting to  Director/ Operations Manager 
Deadline 5pm Tuesday 11th June

 

 

ABOUT REPAIR CAFE WALES 

 

‘A society empowered to work together to reduce waste, share skills, and strengthen our communities’ 

Repair Cafe Wales is a not-for-profit Community Interest Company that opens and supports repair cafes across Wales. In their simplest form, repair cafés are pop up events where the local community can get their broken household items repaired for free by volunteers.  Repair cafés are started by residents, with our support, and run by the local community. 

We currently support a network of over 130 repair cafes but we are not stopping there! Our mission is to facilitate the opening of repair cafés in every town, village, city and suburb in Wales. We are focusing our energies on nurturing a cleaner, more sustainable world whilst our communities are inclusive and safe environments for people of all ages and backgrounds to share knowledge, skills, and to generally connect. 

We work for our communities to influence standards for goods and government policy, collect data from our community hubs, and help to inform policy decisions that promote a greener, more sustainable world. 

 

ABOUT THE ROLE 

 

It is an exciting time to be joining Repair Cafe Wales as we continue to grow. We are seeking an experienced Bookkeeper, ideally with experience of working in the third sector, to help support this growth.  

 

You will work from home during flexible hours that suit you and our business, supporting the Repair Cafe Wales team to ensure that we can work as effectively as possible. Areas of responsibility will include the maintenance of accounting systems, financial administration, data entry and record management.  

 

We are currently a small team that is very supportive of flexible working, with a focus on delivering outcomes. This is a fixed-term contract, with the potential to extend if we are successful in obtaining further funding.  

 

 

KEY RESPONSIBILITIES 

 

  • Completing administrative and finance routines relating to orders, sales invoices, receipts and payments 
  • Maintenance and reconciling of the accounts system  
  • Helping to prepare the annual accounts 
  • Employee and volunteer expenses 
  • Complete financial funding reports  
  • Data entry and record management  
  • Liaise with local customers, partners and suppliers as appropriate  
  • Enrol staff onto pension scheme and liaise with accountant to coordinate payroll 
  • To undertake other duties commensurate with the post, as agreed by line manager, and willing to take on responsibility where necessary  

 

 

SKILLS AND EXPERIENCE REQUIRED 

 

 

Previous experience 

 

  • Experience working as a bookkeeper 
  • Proven ability to structure, plan and prioritise workload to be able to deliver against targets and deadlines.  
  • Ability to take the lead and work on your own initiative
  • Experience using accounting software- preferably Quickbooks  

 

Competencies 

 

  • Competent in MS Office – particularly Word, Excel and Outlook  
  • A genuine commitment to the values and ethos of Repair Cafe Wales 
  • Excellent attention to detail to enter correct data into financial records and recognise errors 
  • Exceptional communication skills, both written and verbal.  

Technical skills 

 

  • Welsh language skills are desirable 

 

 

VALUES  

 

Repair cafés are a fun, social way to combat the general frustration with wasted materials, resources and a loss of skills. It’s a community, a space for empowerment and the site of transformation where people’s relationships with their household items shift from consumer to owner. 

 

All employees, contractors and volunteers are required to operate in line with RCW’s core values: 

 

  • Waste Reduction – Repair cafés help household items be used for longer rather than throwing them away. This reduces the volume of raw materials and energy needed to make new products. It cuts CO2 emissions by reusing instead of manufacturing new products. 
  • Sharing Skills – By promoting a repairing culture and inviting each one of our visitors to sit with a volunteer repairer, repair cafés show appreciation for the people who have practical knowledge and ensure these valuable skills are getting passed on. 
  • Community Cohesion – Repair cafés promote social cohesion in the community by connecting local residents from very different backgrounds and with different motives with each other through an inspiring and low-key event. 

 

 

 

HOW TO APPLY 

 

To apply please submit your CV and a brief supporting statement to phoebe@repaircafewales.org 

 

Deadline for applications: 5pm Tuesday 11th June 

Interviews: w/c 17th June 

Decision communicated: ASAP 

Start date: ASAP 

Repair Cafe Wales recognise the positive value of diversity, promotes equality and challenges discrimination. We welcome and encourage job applications from people of all backgrounds. We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Repair Cafe Wales. We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles. 

Ceidwad Cyfrifon  

Lleoliad Gweithio o gartref  

Contract 2.5 ddiwrnod yr wythnos am dymor penodedig tan 31/03/25 gyda phosibilrwydd o’i estyn yn dibynnu ar gyllid. Rydym yn agored i ystyried llai o oriau na 0.5 FTE os gellir bodloni anghenion busnes 

Dyddiad dechrau Cyn gynted â phosibl   

Cyflog £25,121.25 FTE 

Adrodd i Y Cyfarwyddwr / Rheolwr Gweithrediadau 

Dyddiad cau 5pm Dydd Mawrth 11eg o Fehefin 

 

AM CAFFI TRWSIO CYMRU  

‘Cymdeithas sydd wedi’i grymuso i gydweithio er mwyn lleihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau’ 

Mae Caffi Trwsio Cymru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sy’n agor ac yn cefnogi caffis trwsio ledled Cymru. Ar eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn digwyddiadau dros dro lle mae gwirfoddolwyr yn trwsio, yn rhad ac am ddim, eitemau cartref y gymuned leol sydd wedi torri. Mae caffis trwsio yn cael eu cychwyn gan drigolion, gyda’n cefnogaeth ni, ac yn cael eu cynnal gan y gymuned leol.  

Ar hyn o bryd rydym ni’n cefnogi rhwydwaith o fwy na 130 caffi trwsio ond nid dyna’r diwedd! Ein cenhadaeth yw hwyluso agor caffis trwsio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru. Rydym ni’n canolbwyntio’n hegni ar feithrin byd glannach, mwy cynaliadwy tra bod ein cymunedau’n amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oedran a chefndir rannu gwybodaeth, sgiliau, a chysylltu’n gyffredinol.  

Gweithiwn dros ein cymunedau i ddylanwadu ar safonau ar gyfer nwyddau a pholisi’r llywodraeth, casglu data o’n canolbwyntiau cymunedol, a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach, mwy cynaliadwy.  

AM Y RÔL  

Mae’n adeg gyffrous i ymuno â Chaffi Trwsio Cymru wrth i ni barhau i dyfu. Rydym yn chwilio am Geidwad Cyfrifon profiadol, yn ddelfrydol gyda phrofiad o weithio yn y trydydd sector, i helpu i gefnogi’r twf hwn.  

Byddwch yn gweithio o gartref yn ystod oriau hyblyg sy’n addas i chi ac i’n busnes, gan gefnogi tîm Caffi Trwsio Cymru i sicrhau y gallwn ni weithio mor effeithiol â phosibl. Bydd meysydd cyfrifoldeb yn cynnwys cynnal systemau cyfrifyddu, gweinyddiaeth ariannol, cofnodi data a rheoli cofnodion.  

Ar hyn o bryd rydym yn dîm bach sy’n gefnogol iawn o weithio hyblyg, gyda ffocws ar gyflenwi canlyniadau. Mae hwn yn gontract tymor penodedig, gyda’r potensial i’w estyn os byddwn yn llwyddiannus wrth sicrhau rhagor o gyllid.  

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL 

  • Cwblhau arferion gweinyddol ac ariannol mewn perthynas ag archebion, anfonebau gwerthiannau, derbynebau a thaliadau  
  • Cynnal a chysoni’r system cyfrifyddu 
  • Helpu i baratoi’r cyfrifon blynyddol  
  • Treuliau cyflogeion a gwirfoddolwyr  
  • Cwblhau adroddiadau cyllid ariannol 
  • Cofnodi data a rheoli cofnodion 
  • Cydgysylltu â chwsmeriaid, partneriaid a chyflenwyr lleol fel y bo’n briodol  
  • Cofrestru staff i’r cynllun pensiwn a chydgysylltu â’r cyfrifydd i gyd-drefnu’r gyflogres  
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill sy’n gymesur â’r swydd- yn ddelfrydol Quickbooks 

SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL 

Profiad blaenorol  

  • Profiad o weithio fel ceidwad cyfrifon   
  • Gallu profedig i strwythuro, cynllunio a blaenoriaethu’r llwyth gwaith er mwyn gallu cyflenwi yn erbyn targedau a dyddiadau cau  
  • Gallu i arwain a gweithio yn ôl eich blaengarwch eich hun  
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd gyfrifyddu – ar hyd o bryd defnyddiwn Quickfile ond gallwn fod yn hyblyg ynghylch hynny  

 

Cymwyseddau  

  • Cymwys wrth ddefnyddio MS Office – yn arbennig Word, Excel ac Outlook  
  • Ymrwymiad gwirioneddol i werthoedd ac ethos Caffi Trwsio Cymru 
  • Llygad graff am fanylion i gofnodi data’n gywir mewn cofnodion ariannol ac adnabod gwallau  
  • Sgiliau cyfathrebu eithriadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar  

 

Sgiliau technegol  

  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol  

 

GWERTHOEDD  

Mae caffis trwsio yn ffordd ddifyr, gymdeithasol o oresgyn y rhwystredigaeth gyffredinol ar ddeunyddiau ac adnoddau sy’n cael eu gwastraffu a sgiliau sy’n cael eu colli. Mae’n gymuned, yn lle am rymuso ac yn fan trawsnewid lle bydd perthynas pobl â’u eitemau cartref yn newid o ddefnyddiwr i berchennog.  

Mae’n ofynnol i bob cyflogai, contractiwr a gwirfoddolwr weithredu yn unol â gwerthoedd craidd Caffi Trwsio Cymru, sef:  

  • Lleihau Gwastraff Mae caffis trwsio yn helpu eitemau cartref i gael eu defnyddio’n hirach yn hytrach na chael eu taflu. Mae hyn yn lleihau maint y deunyddiau crai a’r ynni mae eu hangen i wneud cynhyrchion newydd. Mae’n cwtogi allyriadau CO2 drwy ailddefnyddio yn hytrach na gweithgynhyrchu cynnyrch newydd.  
  • Rhannu Sgiliau Drwy hyrwyddo diwylliant trwsio a gwahodd pob un o’n hymwelwyr i eistedd gyda thrwsiwr gwirfoddol, mae caffis trwsio yn dangos gwerthfawrogiad i’r bobl sydd â gwybodaeth ymarferol ac yn sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu pasio ymlaen.  
  • Cydlyniant Cymunedol – Mae caffis trwsio yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn y gymuned trwy gysylltu trigolion lleol o gefndiroedd gwahanol iawn ac sydd â chymhellion gwahanol â’i gilydd trwy ddigwyddiad ysbrydoledig a chynnil.  

 

SUT I WNEUD CAIS  

I wneud cais cyflwynwch eich CV a datganiad ategol byr i phoebe@repaircafewales.org  

Dyddiad cau am geisiadau: 5pm Dydd Mawrth 11eg o Fehefin 

Cyfweliadau: w/c 17eg o Fehefin 

Cyfathrebu’r penderfyniad: Cyn gynted â phosibl 

Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl 

Mae Caffi Trwsio Cymru yn cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac  yn herio gwahaniaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd oddi wrth bobl o bob cefndir. Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Caffi Trwsio Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol am y rôl fel y’u pennir mewn proffiliau rôl.