Location Remote 
Timeline Flexible, the core campaign will run throughout Feb 2026 but there will be work in the lead up to the campaign which ideally would begin in May 25.  
Start date May 2025 
Budget Up to £15k 
Reporting to  Director 
Deadline 5pm 25th April Please note interviews will be carried out on a rolling basis and we reserve the right to close this vacancy early if the right candidate is found. Therefore, we would encourage you to submit an application at the earliest available date. 

 

 

ABOUT REPAIR CAFE WALES 

  

Repair Cafe Wales is a large charity dedicated to building a culture of repair and reuse across Wales. We support a network of over 140 volunteer-led repair cafés, where communities come together to fix broken household items, share skills, and reduce waste. Our vision is to see a repair café in every community in Wales.  

 

Repair cafes are pop-up initiatives where members of the public bring items in to be fixed by volunteers for free. Our talented volunteers fix all kinds of items including clothing, household electricals, bikes, toys and furniture- keeping these items in use for longer and out of landfill.  

 

Since 2017, we have:  

  • Fixed 21245 items  
  • Have a fixing success rate of 82.3% 
  • Saved local people over £1m 
  • Saved carbon emissions of 698,960 kg Co2e 
  • Launched Wales first high street repair and reuse space- REMAKE Newport 

 

Beyond the environmental benefits, repair cafes also provide inclusive warm spaces where local people can come together, feel more connected to their community, and reduce loneliness and isolation. See a repair cafe in action here. 

 

In January we published our new 5-year strategy which you can view here. 

  

ABOUT THE ROLE 

 

Fix It Feb is a month-long campaign to inspire people across Wales to repair one broken item instead of replacing it. Whether it’s a faulty toaster, a ripped pair of jeans, or a wobbly chair, Fix It Feb is using the power of repair to help the planet, save money, and create connections through skill sharing.

Fix it Feb ran for the first time in 2025 and had a campaign reach of over 500,000, over 1000 items fixed and over 400 volunteers involved. In 2026, we’re looking to take the campaign to the next level and grow the reach further. We want to see: 

  • Greater awareness of repair cafe and the Repair Cafe Wales brand  
  • Encourage new audiences to engage in repair 
  • Increased media reach  
  • Involvement with schools and younger people 
  • An increase in partners involved in the campaign, with a particular focus on corporate sponsors  

 

WHAT YOU’LL DO 

 

We are looking for Freelance Comms professional to take the lead on the campaign. The role will be supported by our in-house Comms Officer and the Director. 

 

  • Execute the campaign plan- growing the campaign to build on the 2025 results 
  • Craft compelling content across multiple channels, including social media, email, press releases, and thought leadership pieces 
  • Engage with media and stakeholders, building relationships and securing coverage 
  • Develop resources for schools to engage with the campaign  
  • Secure corporate partners and sponsorship for campaign  
  • Analyze performance data, optimizing content and campaign tactics based on insights 
  • Ensure campaign timelines and targets are met 

 

WHAT WE’RE LOOKING FOR 

 

This is a broad role and we’re taking a flexible approach to 

 

  • Proven experience leading campaigns that drive engagement and results 
  • Good at reaching new audiences  
  • Welsh language skills are highly desirable  
  • Experience creating content across all social media platforms  
  • Experience of working with community groups/ third sector partners is desirable  
  • Experience of developing corporate partnerships for campaigns is highly desirable, particularly if sponsorship has been secured  
  • Welsh media contacts and the ability to pitch stories effectively 
  • Bonus: experience in or a passion for the sustainability/ environmental sector 

HOW TO APPLY 

To apply please submit your CV and examples of previous work to phoebe@repaircafewales.org 

  

Deadline for applications: 5pm 25th April  

Interviews: Please note interviews will be carried out on a rolling basis and we reserve the right to close this vacancy early if the right candidate is found. Therefore, we would encourage you to submit an application at the earliest available date.  

Decision communicated: ASAP 

Start date: May 2025 

  

Repair Cafe Wales recognise the positive value of diversity, promotes equality and challenges discrimination. We welcome and encourage job applications from people of all backgrounds. We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Repair Cafe Wales. We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles. 

ARWEINYDD YMGYRCH/CYFATHREBU LLAWRYDD (FIX IT FEB 2026)

 

LleoliadO bell
AmserlenYn hyblyg, bydd yr ymgyrch graidd yn rhedeg trwy gydol Chwefror 2026 ond bydd gwaith wrth arwain at yr ymgyrch a fyddai’n ddelfrydol yn dechrau ym Mai 25.
Dyddiad dechrauMai 2025
CyllidebHyd at £15k
Yn adrodd iY Cyfarwyddwr
Dyddiad cau5pm 25 Ebrill Sylwch y bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal dros gyfnod treigl a chadwn yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn dod o hyd i’r ymgeisydd priodol. Bydden ni felly yn eich annog i gyflwyno cais mor fuan ag y gallwch.

 

 

YNGHYLCH CAFFI TRWSIO CYMRU

Mae Caffi Trwsio Cymru yn elusen fawr sy’n ymroi i feithrin diwylliant o drwsio ac ailddefnyddio ledled Cymru. Cefnogwn rwydwaith o fwy na 140 o gaffis trwsio dan arweiniad gwirfoddolwyr, lle gall cymunedau ddod at ei gilydd i drwsio eitemau cartref sydd wedi torri, rhannu sgiliau, a lleihau gwastraff. Ein gweledigaeth yw gweld caffi trwsio ym mhob cymuned yng Nghymru.

Mae caffis trwsio yn fentrau dros dro lle mae aelodau’r cyhoedd yn dod ag eitemau i mewn i gael eu trwsio, am ddim, gan wirfoddolwyr. Mae ein trwswyr talentog yn trwsio pob math o eitemau gan gynnwys dillad, offer trydanol cartref, beiciau, tegannau a dodrefn – gan gadw’r eitemau hyn mewn defnydd am hirach ac allan o dirlenwi.

Ers 2017, rydym ni wedi:

  • Trwsio 21245 o eitemau
  • Mae gennym gyfradd lwyddo wrth drwsio o 82.3%
  • Arbed mwy na £1m i bobl leol
  • Arbed allyriadau carbon o 698,960 kg o Co2e
  • Lansio man trwsio ac ailddefnyddio cyntaf Cymru ar stryd fawr – REMAKE Casnewydd

Y tu hwnt i’r buddion amgylcheddol, mae caffis trwsio hefyd yn cynnig mannau cynnes cynhwysol lle gall pobl leol ddod at ei gilydd, teimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymuned, a lleihau unigrwydd a theimlo’n ynysig. Gweler caffi trwsio ar waith yma.

Ym mis Ionawr cyhoeddom ni ein strategaeth 5-mlynedd newydd y gallwch ei gweld yma.

 

YNGHYLCH Y RÔL

Ymgyrch sy’n para am fis yw Fix It Feb i ysbrydoli pobl ledled Cymru i drwsio un eitem sydd wedi torri yn lle prynu un newydd. Boed yn dostiwr sydd wedi torri, pâr o jîns sydd wedi’u rhwygo, neu gadair sigledig, mae Fix It Feb yn defnyddio pŵer trwsio i helpu’r blaned, arbed arian, a chreu cysylltiadau trwy rannu sgiliau.

Cafodd Fix it Feb ei gynnal am y tro cyntaf yn 2025 a chyrhaeddodd yr ymgyrch fwy na 500,000 o bobl, trwsio mwy na 1000 o eitemau a chynnwys mwy na 400 o wirfoddolwyr. Yn 2026, ein nod yw cymryd yr ymgyrch i’r lefel nesaf a thyfu ei chyrraedd ymhellach. Dymunwn weld:

  • Mwy o ymwybyddiaeth o frand caffis trwsio a Caffi Trwsio Cymru
  • Annog cynulleidfaoedd newydd i ymgysylltu â thrwsio
  • Cyrraedd ehangach yn y cyfryngau
  • Cyfranogiad ysgolion a phobl ifanc
  • Cynnydd mewn partneriaid sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch, gyda ffocws arbennig ar noddwyr corfforaethol

 

BETH FYDDWCH CHI’N EI WNEUD

Rydym ni’n chwilio am weithiwr Cyfathrebu Llawrydd proffesiynol i arwain yr ymgyrch. Bydd y rôl yn cael ei hategu gan ein Swyddog Cyfathrebu mewnol a’r Cyfarwyddwr.

  • Gweithredu cynllun yr ymgyrch – tyfu’r ymgyrch i adeiladu ar ganlyniadau 2025
  • Llunio cynnwys cymhellgar ar draws sianeli lluosog, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, e-bost, hysbysiadau i’r wasg, a darnau i brocio meddwl
  • Ymgysylltu â’r cyfryngau a rhanddeiliaid, gan feithrin cysylltiadau a sicrhau sylw
  • Datblygu adnoddau er mwyn i ysgolion ymgysylltu â’r ymgyrch
  • Sicrhau nawdd a phartneriaid corfforaethol am yr ymgyrch
  • Dadansoddi data perfformiad, gan uchafu cynnwys a thactegau’r ymgyrch ar sail dealltwriaeth
  • Sicrhau bod amserlenni a thargedau’r ymgyrch yn cael eu bodloni

BETH RYDYM NI’N CHWILIO AMDANI

 

Rôl eang yw hon ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg at

 

  • Brofiad profedig o arwain ymgyrchoedd sy’n arwain at ymgysylltiad a chanlyniadau
  • Yn dda mewn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd
  • Sgiliau Cymraeg yn ddymunol iawn
  • Profiad o greu cynnwys ar draws pob platfform cyfryngau cymdeithasol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cymunedol/partneriaid trydydd sector yn ddymunol
  • Profiad o ddatblygu partneriaethau corfforaethol ar gyfer ymgyrchoedd yn ddymunol iawn, yn arbennig os bydd nawdd wedi cael ei sicrhau
  • Cysylltiadau ymhlith y cyfryngau yng Nghymru a’r gallu i gynnig storïau’n effeithiol
  • Bonws: profiad yn y sector cynaladwyedd/ amgylcheddol neu angerdd drosto

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais, cyflwynwch eich CV ac enghreifftiau o waith blaenorol i phoebe@repaircafewales.org

Dyddiad cau am geisiadau: 5pm 25 Ebrill

Cyfweliadau: Sylwch y bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal dros gyfnod treigl a chadwn yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn dod o hyd i’r ymgeisydd priodol. Bydden ni felly yn eich annog i gyflwyno cais mor fuan ag y gallwch.

Cyfathrebu’r penderfyniad: Cyn gynted â phosibl

Dyddiad dechrau: Mai 2025

Mae Caffi Trwsio Cymru yn cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac  yn herio gwahaniaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd oddi wrth bobl o bob cefndir. Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Caffi Trwsio Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol am y rôl fel y’u pennir mewn proffiliau rôl.