Income Generation and Partnerships Manager
Location | Remote |
Contract | 2.5 days per week fixed term contract until 31/03/26 |
Start date | ASAP |
Salary | £47,775 |
Reporting to | Director |
ABOUT REPAIR CAFE WALES
Repair Cafe Wales is a large charity dedicated to building a culture of repair and reuse across Wales. We support a network of over 140 volunteer-led repair cafés, where communities come together to fix broken household items, share skills, and reduce waste. Our vision is to see a repair café in every community in Wales.
Repair cafes are pop-up initiatives where members of the public bring items in to be fixed by volunteers for free. Our talented volunteers fix all kinds of items including clothing, household electricals, bikes, toys and furniture- keeping these items in use for longer and out of landfill.
Since 2017, we have:
- Fixed 21245 items
- Have a fixing success rate of 82.3%
- Saved local people over £1m
- Saved carbon emissions of 698,960 kg Co2e
- Launched Wales first high street repair and reuse space- REMAKE Newport
Beyond the environmental benefits, repair cafes also provide inclusive warm spaces where local people can come together, feel more connected to their community, and reduce loneliness and isolation. See a repair cafe in action here.
In January we published our new 5-year strategy which you can view here.
ABOUT THE ROLE
We are looking for a proactive and strategic Partnership and Income Generation Manager to lead on building strong relationships with funders, corporate partners, and stakeholders while developing sustainable income streams to support our mission. This is a key role in our small and passionate team, ideal for someone with a strong background in fundraising, diversifying income streams, and stakeholder engagement. You should be motivated by environmental and social impact and have great connections across Wales.
We are currently a small team that is very supportive of flexible working, with a focus on delivering outcomes. This is a fixed-term contract, with the potential to extend if we are successful in obtaining further funding. This role is remote.
KEY RESPONSIBILITIES
- Research and write compelling funding applications, proposals, and impact reports.
- Identify, cultivate, and manage strategic partnerships with businesses, government bodies, local authorities, and community organisations to bring in income
- Identify new opportunities for income generation and bring these ideas to fruition
- Represent Repair Café Wales at meetings, events, and networking opportunities to increase visibility and influence.
- Create partnership proposals and manage partner relationships to ensure mutual benefit and impact.
- Monitor performance and report on income targets and KPIs.
- Collaborate across the team to integrate fundraising into RCW’s wider strategic and communications plans.
SKILLS AND EXPERIENCE REQUIRED
- Proven experience in fundraising, income generation, or business development.
- Excellent relationship-building and communication skills.
- Strong proposal and bid writing ability.
- Strategic and entrepreneurial thinker with the ability to identify and leverage new opportunities.
- Commitment to Repair Café Wales’ values of sustainability, community, and inclusion.
- Ability to influence and inspire, confident presenting to senior stakeholders
- Knowledge of the Welsh funding landscape is highly desirable
VALUES
Repair cafés are a fun, social way to combat the general frustration with wasted materials, resources and a loss of skills. It’s a community, a space for empowerment and the site of transformation where people’s relationships with their household items shift from consumer to owner.
All employees, contractors and volunteers are required to operate in line with RCW’s core values:
- Waste Reduction – Repair cafés help household items be used for longer rather than throwing them away. This reduces the volume of raw materials and energy needed to make new products. It cuts CO2 emissions by reusing instead of manufacturing new products.
- Sharing Skills – By promoting a repairing culture and inviting each one of our visitors to sit with a volunteer repairer, repair cafés show appreciation for the people who have practical knowledge and ensure these valuable skills are getting passed on.
- Community Cohesion – Repair cafés promote social cohesion in the community by connecting local residents from very different backgrounds and with different motives with each other through an inspiring and low-key event.
HOW TO APPLY
To apply please submit your CV and a brief supporting statement to phoebe@repaircafewales.org
Deadline for applications: 5pm 27th June – please note we reserve the right to close this vacancy if a large number of applications are received, therefore we would encourage an early application.
Interviews: w/c 30th June
Decision communicated: ASAP
Start date: ASAP
Repair Cafe Wales recognise the positive value of diversity, promotes equality and challenges discrimination. We welcome and encourage job applications from people of all backgrounds. We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Repair Cafe Wales. We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles.
Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Phartneriaethau
Lleoliad | O bell |
Contract | 2.5 ddiwrnod yr wythnos ar gontact cyfnod penodedig tan 31/03/26 |
Dyddiad dechrau | Cyn gynted â phosibl |
Cyflog | £47,775 |
Yn adrodd i | Y Cyfarwyddwr |
YNGHYLCH CAFFI TRWSIO CYMRU
Mae Caffi Trwsio Cymru yn elusen fawr sy’n ymroi i feithrin diwylliant o drwsio ac ailddefnyddio ledled Cymru. Cefnogwn rwydwaith o fwy na 140 o gaffis trwsio dan arweiniad gwirfoddolwyr, lle gall cymunedau ddod at ei gilydd i drwsio eitemau cartref sydd wedi torri, rhannu sgiliau, a lleihau gwastraff. Ein gweledigaeth yw gweld caffi trwsio ym mhob cymuned yng Nghymru.
Mae caffis trwsio yn fentrau dros dro lle mae aelodau’r cyhoedd yn dod ag eitemau i mewn i gael eu trwsio, am ddim, gan wirfoddolwyr. Mae ein trwswyr talentog yn trwsio pob math o eitemau gan gynnwys dillad, offer trydanol cartref, beiciau, tegannau a dodrefn – gan gadw’r eitemau hyn mewn defnydd am hirach ac allan o dirlenwi.
Ers 2017, rydym ni wedi:
- Trwsio 21245 o eitemau
- Mae gennym gyfradd lwyddo wrth drwsio o 82.3%
- Arbed mwy na £1m i bobl leol
- Arbed allyriadau carbon o 698,960 kg o Co2e
- Lansio man trwsio ac ailddefnyddio cyntaf Cymru ar stryd fawr – REMAKE Casnewydd
Y tu hwnt i’r buddion amgylcheddol, mae caffis trwsio hefyd yn cynnig mannau cynnes cynhwysol lle gall pobl leol ddod at ei gilydd, teimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymuned, a lleihau unigrwydd a theimlo’n ynysig. Gweler caffi trwsio ar waith yma.
Ym mis Ionawr cyhoeddom ni ein strategaeth 5-mlynedd newydd y gallwch ei gweld yma.
YNGHYLCH Y RÔL
Rydym ni’n chwilio am Reolwr Cynhyrchu Incwm a Phartneriaethau rhagweithiol a strategol i arwain y gwaith meithrin cysylltiadau cryf â chyllidwyr, partneriaid corfforaethol, a rhanddeiliaid wrth ddatblygu ffrydiau incwm cynaliadwy i gefnogi ein cenhadaeth. Rôl allweddol yw hon yn ein tîm bach ac angerddol, sy’n ddelfrydol i rywun â chefndir cryf mewn codi arian, sicrhau ffrydiau incwm amrywiol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dylech fod wedi’ch cymell gan yr effaith amgylcheddol a chymdeithasol a meddu ar gysylltiadau o’r radd flaenaf ledled Cymru.
Ar hyn o bryd rydym yn dîm bach sy’n gefnogol iawn o weithio hyblyg, gyda ffocws ar gyflenwi canlyniadau. Mae hwn yn gontract tymor penodedig, gyda’r potensial i’w estyn os byddwn yn llwyddiannus wrth sicrhau rhagor o gyllid. Rôl sy’n gweithio o bell yw hon.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
- Ymchwilio ac ysgrifennu ceisiadau am gyllid, cynigion, ac adroddiadau effaith yn gymhellgar.
- Nodi, meithrin, a rheoli partneriaethau strategol â busnesau, cyrff llywodraeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau cymunedol er mwyn dod ag incwm i mewn.
- Nodi cyfleoedd newydd i gynhyrchu incwm ac arwain y syniadau hyn i ddwyn ffrwyth
- Cynrychioli Caffi Trwsio Cymrumewn cyfarfodydd, digwyddiadau, a chyfleoedd rhwydweithio er mwyn cynyddu gweladwyedd a dylanwad.
- Creu cynigion partneriaeth a rheoli perthnasau â phartneriaid i sicrhau bod budd ac effaith ar y ddwy ochr.
- Monitro perfformiad ac adrodd ar dargedau incwm a dangosyddion perfformiad allweddol.
- Cydweithio ar draws y tîm i integreiddio codi arian yng nghynlluniau strategol a chyfathrebu ehangach RCW.
SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL
- Profiad cadarn ym maes codi arian, cynhyrchu incwm, neu ddatblygu busnes.
- Sgiliau rhagorol meithrin perthnasau a chyfathrebu.
- Gallu cryf i lunio cynigion a cheisiadau.
- Meddwl yn strategol ac yn flaengar gyda’r gallu i nodi a manteisio ar gyfleoedd newydd.
- Ymrwymiad i werthoedd Caffi Trwsio Cymru o gynaladwyedd, cydlyniant a chynhwysiant.
- Gallu i ddylanwadu ac ysbrydoli, ac yn hyderus wrth gyflwyno i uwch
- Mae gwybodaeth am dirlun cyllido Cymru yn ddymunol iawn.
GWERTHOEDD
Mae caffis trwsio yn ffordd ddifyr, gymdeithasol o oresgyn y rhwystredigaeth gyffredinol ar ddeunyddiau ac adnoddau sy’n cael eu gwastraffu a sgiliau sy’n cael eu colli. Mae’n gymuned, yn lle am rymuso ac yn fan trawsnewid lle bydd perthynas pobl â’u heitemau cartref yn newid o ddefnyddiwr i berchennog.
Mae’n ofynnol i bob cyflogai, contractiwr a gwirfoddolwr weithredu yn unol â gwerthoedd craidd Caffi Trwsio Cymru, sef:
- Lleihau Gwastraff – Mae caffis trwsio yn helpu eitemau cartref i gael eu defnyddio’n hirach yn hytrach na chael eu taflu. Mae hyn yn lleihau maint y deunyddiau crai a’r ynni mae eu hangen i wneud cynhyrchion newydd. Mae’n cwtogi allyriadau CO2 drwy ailddefnyddio yn hytrach na gweithgynhyrchu cynnyrch newydd.
- Rhannu Sgiliau – Drwy hyrwyddo diwylliant trwsio a gwahodd pob un o’n hymwelwyr i eistedd gyda thrwsiwr gwirfoddol, mae caffis trwsio yn dangos gwerthfawrogiad i’r bobl sydd â gwybodaeth ymarferol ac yn sicrhau bod y sgiliau gwerthfawr hyn yn cael eu pasio ymlaen.
- Cydlyniant Cymunedol – Mae caffis trwsio yn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn y gymuned trwy gysylltu trigolion lleol o gefndiroedd gwahanol iawn ac sydd â chymhellion gwahanol â’i gilydd trwy ddigwyddiad ysbrydoledig a chynnil.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a datganiad ategol byr i phoebe@repaircafewales.org
Dyddiad cau am geisiadau: 5pm 27 Mehefin – sylwch y cadwn yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, felly byddem yn annog gwneud cais yn gynnar.
Cyfweliadau: Yr wythnos sy’n cychwyn 30 Mehefin
Cyfathrebu’r penderfyniad: Cyn gynted â phosibl
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Mae Caffi Trwsio Cymru yn cydnabod gwerth positif amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau swydd oddi wrth bobl o bob cefndir. Rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME ac anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Caffi Trwsio Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl ac yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r isafswm meini prawf hanfodol am y rôl fel y’u pennir mewn proffiliau rôl.